Welcome to our

Cyber Security News Aggregator

.

Cyber Tzar

provide a

cyber security risk management

platform; including automated penetration tests and risk assesments culminating in a "cyber risk score" out of 1,000, just like a credit score.

Canolfan Seibergadernid yng Nghymru atgyfnerthu'r bwrdd gyda phenodiad newydd

published on 2021-10-12 09:24:01 UTC by
Content:

Mae'r Ganolfan Seibergadernid yng Nghymru (WCRC) yn falch o gyhoeddi penodiad arwyddocaol arall i'w bwrdd, gan groesawu Seb Phillips, Cyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau Heddlu Gogledd Cymru.

Wedi gweithio yn y sector preifat a'r sector cyhoeddus, daw Seb â chyfoeth o brofiad mewn gweithrediadau ariannol ac arwain nifer o fusnesau i'r rôl. Gan ddechrau ei yrfa ar gynllun graddedigion cyllid y Post Brenhinol, derbyniodd Seb swydd fel Tiwtor Cyllid gyda BPP Ltd.

Yn dilyn, symudodd i Ogledd Cymru, lle gweithiodd o fewn sawl sefydliad proffil amlwg gan gynnwys Heddlu Gogledd Cymru am y tro cyntaf fel Cyfrifydd Realeiddio Buddion, ac roedd y ffocws ar gymell gwerth o'r amrywiol brosiectau a rhaglenni newid a oedd yn digwydd. Wedi sawl blwyddyn yn gweithredu fel Cyfarwyddwr Cyllid yn y sector preifat, ailymunodd â'r heddlu yn 2019 lle mae bellach yn gweithio fel Cyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau.

Wrth wneud sylw ar ei swydd ar fwrdd rheoli'r WCRC, dywedodd Seb: "Rwyf yn gredwr mawr bod rheolaeth ariannol wych yn bwysig waeth bynnag y sector. Rwyf bob amser eisiau defnyddio fy sgiliau rwyf wedi'u cywain dros y blynyddoedd i wneud gwahaniaeth i Ogledd Cymru a'i bobl. Mae fy rôl yn Heddlu Gogledd Cymru yn sicr yn gwneud hyn. Ond rwyf wrth fy modd hefyd o ddefnyddio fy swydd i gynorthwyo gwaith y Ganolfan Seibergadernid ledled Cymru. Rwyf yn gobeithio cynorthwyo'r tîm i gryfhau seibergadernid ledled busnesau Cymru."

Ychwanegodd y Ditectif Uwcharolygydd Paul Peters a Chyfarwyddwr y WCRC: "Mae'n newyddion gwych i'r ganolfan bod Seb wedi ymuno â'n bwrdd Rheoli. Daw â chyfoeth o arbenigedd o weithio mewn plismona a'r sector preifat sy'n cryfhau bwrdd sydd eisoes yn brofiadol."

"Mae technoleg ddiogel yn hanfodol i alluogi twf mentrau bach a chanolig ac economi Cymru. Rhaid i fusnesau warchod eu heiddo, eu data a rhaid i gadwyni cyflenwi lwyddo. Rydym yn lwcus iawn o gael bwrdd sy'n dod ag arbenigedd a chymorth mor werthfawr at ei gilydd. Mae hyn fel ein bod yn gallu rhoi'r arweiniad gorau gallwn i barhau i warchod y rhai hynny sy'n fregus a sicrhau eu bod yn cael eu gwarchod yn erbyn unrhyw fygythiadau seiber yn y dyfodol."

Gall busnesau ymuno â'r Ganolfan Seibergadernid yng Nghymru drwy ystod o becynnau aelodaeth i gael mynediad at ganllawiau, offer a gwasanaethau fforddiadwy er mwyn cynorthwyo i warchod eu hunain yn well o ran bygythiad troseddau seiber.

Er mwyn gwybod mwy am y WCRC, ewch ar www.wcrcentre.co.uk. Er mwyn gwybod y diweddaraf am ddatblygiadau'r WCRC ar y cyfryngau cymdeithasol, dilynwch @CRCWales ar Twitter a LinkedIn.

Article: Canolfan Seibergadernid yng Nghymru atgyfnerthu'r bwrdd gyda phenodiad newydd - published about 3 years ago.

https://www.wcrcentre.co.uk/post/canolfan-seibergadernid-yng-nghymru-atgyfnerthu-r-bwrdd-gyda-phenodiad-newydd   
Published: 2021 10 12 09:24:01
Received: 2022 02 03 04:50:43
Feed: The Cyber Resilience Centre for Wales
Source: National Cyber Resilience Centre Group
Category: News
Topic: Cyber Security
Views: 1

Custom HTML Block

Click to Open Code Editor