Wrth i densiynau barhau i gynyddu yn Wcráin, mae Lindy Cameron, Prif Swyddog Gweithredol y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol, wedi cynghori pob sefydliad yn y DU i ddiogelu ei hun rhag bygythiadau seiber. Mae'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol wedi cyhoeddi camau i'w cymryd pan fydd mwy o fygythiad seiber. Efallai y byddwch yn gofyn i chi eich hun beth a wnelo rhyfel 2,000 o filltiroedd i ffwrdd yn nwyrain Ewrop â'ch busnes chi, ond wrth ysgrifennu yn y Sunday Telegraph, cyfeiriodd Lindy at y ffaith nad yw ymosodiadau seiber yn parchu ffiniau daearyddol a bod busnesau yn y DU yn cael eu targedu gan droseddwyr tramor bob dydd. Wrth i'r argyfwng waethygu, rydym yn disgwyl gweld mwy o ymosodiadau seiber gyda busnesau yn y DU hefyd yn cael eu targedu, o bosibl. Er mwyn eich helpu i ddeall y bygythiad a'r camau ymarferol y gallwch eu cymryd i leihau'r risg yn well, gallwch lawrlwytho ein Llyfr Bach o Sgamiau Seiber am ddim.
Mae Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu hefyd wedi cyhoeddi canllawiau defnyddiol ar sut i wella seibergadernid, gwasanaethau ychwanegol i fusnesau a gwybodaeth am sut i roi gwybod am ddigwyddiadau seiber.
Fel bob amser, os bydd angen unrhyw gymorth arnoch, gallwch gysylltu â ni er mwyn siarad ag aelod o'n tîm.
Click to Open Code Editor